home *** CD-ROM | disk | FTP | other *** search
- Y DDISG RISG CYFROL DAU
- ========================
-
- Croeso i'r Ddisg Risg Cyfrol 2
-
- Cyn rhedeg Y Ddisg Risg efallai y bydd angen diweddaru eich System â'r
- cyfleuster Sysmerge sydd yn y cyfeiriadur Arsefydlu. Os oes gennych Risc PC
- cliciwch ddwywaith ar eich cyfeiriadur !Llwytho yna cliciwch ar yr opsiwn
- System a llusgwch y cyfeiriadur System o'r CD i ffenestr ddiweddaru'r System.
-
- Os ydych yn bwriadu rhedeg y cyflwyniad EMPIRE bydd raid ichi gopïo'r rhaglen
- !ARWork i'ch disg galed. (Mae angen tua 6MB o le ar y ddisg galed).
-
- I redeg y CD hon cliciwch ar yr icon !RiscDisc2 ac fe gewch gyflwyniad
- rhyngweithiol i gynnwys y CD.
-
- Cynlluniwyd y CD i redeg o dan Risc OS 3.5 ar Risc PC gyda 4MB DRAM ac o
- leiaf 1MB VRAM. Mae rhai rhaglenni wedi'u cynllunio i redeg o dan Risc OS
- 3.1.
-
- MPEG
- ----
- Mae'r darnau o MPEG ar y ddisg hon wedi'u cynllunio i'w chwarae nôl gan
- ddefnyddio'r cerdyn Computer Concepts/Wild Vision Movie Magic. Bydd rhai o'r
- darnau sydd ag estyniad /mpv hefyd yn chwarae nôl gan ddefnyddio
- chwaraeyddion MPEG meddalwedd PD gan Paul LeBeau a Henrik Bjerregaard
- Pedersen.
-
- Mae peth o gynnwys y ddisg wedi'i gynllunio i'w gopïo ar ddisg galed cyn ei
- ddefnyddio. Ond y prif amcan yw osgoi'r angen i gadw cyflwyniadau a
- chyfleusterau ar eich disg galed.
-
- Sganiwyd cynnwys y ddisg hon gan ddefnyddio Fersiwn 1.900 !Killer o Pineapple
- Software ar gyfer yr holl firysau hysbys.
-
- ADNODDAU
- ---------
- Cyn belled ag y bo modd, ceisiwyd sicrhau fod yr holl raglenni yn defnyddio
- adnoddau cyffredin ond os ydych yn rhedeg nifer o gyflwyniadau efallai y bydd
- gwahanol raglenni yn llwytho fersiynau o fodylau sy'n gwrthdaro â'i gilydd.
- Profwyd pob rhaglen i redeg yn unigol ond mae'n amhosibl gwirio pob un
- cyfuniad o raglenni.
-
- I osgoi problemau ag enwau ffeiliau nad ydynt yn cydymffurfio â fformatio ISO
- ar y CD fe sylwch fod rhai rhaglenni yn archifau ArcFS yn hytrach na
- chyfeiriadur normal. Mae'r archifau hyn HEB EU CYWASGU; gellir eu hagor yn y
- modd arferol trwy glicio ddwywaith. Gellir defnyddio'r holl feddalwedd ar y
- ddisg hon naill ai gan ddefnyddio tudalennau blaen !RiscDisc2 neu yn
- uniongyrchol o'r CD.
-
- Y WE
- -------
- Oherwydd bod y rhan fwyaf o safleodd Gwe yn rhedeg systemau Unix mae enwau'r
- ffeiliau yn yr adran honno yn aml yn hirach nag enwau ffeil safonol RISC OS.
- Nid yw hyn yn broblem ar y CD ond os byddwch yn copïo'r ffeiliau i ddisg fe
- gânt eu cwtogi.
-
- RHYBUDD GWADU HAWLFRAINT
- ---------------------------
- O dan gyfraith Lloegr mae'r holl feddalwedd ar y ddisg hon yn hawlfraint i
- rywun sydd wedi caniatáu dosbarthu'r meddalwedd dan amodau rheoledig.
-
- Nid yw Uniqueway Ltd yn hawlio fod y meddalwedd ar y ddisg hon ar gael ar
- gyfer ei ddosbarthu yn gyhoeddus ond maen nhw wedi cymryd camau rhesymol i
- sicrhau fod hawliau'r awduron gwreiddiol yn cael eu parchu a'u cynnal.
-
- Lle bo amodau trwyddedu ynghlwm ni fydd Uniqueway Ltd yn gyfrifol am UNRHYW
- gamddefnydd gan defnyddiwr y ddisg.
-
- Gan fod llawer o awduron y meddalwedd yn dibynnu ar gyfraniadau i gynnal eu
- gwaith, a wnewch chi, os gwelwch yn dda, barchu cytundeb trwyddedu'r
- unigolyn.
-
- Er ein bod wedi ceisio cynnwys fersiwn ddiweddaraf y meddalwedd ar y ddisg
- hon, bydd yr awduron gwreiddiol yn falch o ddarparu fersiwn ddiweddarach os
- byddwch chi'n barod i dalu am y meddalwedd fydd o defnydd ichi.
-
- Er bod meddalwedd ar y ddisg hon, nid yw hynny'n golygu fod Uniqueway Ltd neu
- Acorn Computers Ltd yn eu cymeradwyo. Darperir yr holl feddalwedd "fel y mae"
- ac ni fydd Uniqueway Ltd yn gyfrifol am unrhyw golled neu broblemau a achosir
- wrth ddefnyddio'r meddalwedd yma.
-
-
-
- HYSBYSIAD PWYSIG IAWN
- --------------------- Ni all Uniqueway Ltd na Acorn Computers Ltd gynnal y
- meddlawedd ar y ddisg hon. Dylech gyfeirio ymholiadau i'r unigolyn neu gwmni
- perthnasol.
-
-
- Mae'r ddisg hon yn gynhyrchiad hollol annibynnol ac ni ddylid derbyn unrhyw
- ddatganiadau ar y ddisg hon na'r meddalwedd cynwysiedig fel bo Acorn
- Computers Ltd yn ei gymeradwyo.
-
- Os ydych yn hapus â'r ddisg cofiwch ddweud wrthym. Os ydych yn hapus â'r
- cyflwyniadau yna cysylltwch â'ch gwerthwr lleol neu'r cwmni am ragor o
- fanylion.
-
-
- Os oes gennych chi unrhyw sylwadau neu os oes gennych ddeunydd yr hoffech ei
- gynnwys ar Gyfrol 3 y Ddisg Risg neu'r Ddisg Addysg cysylltwch â:
-
- Paul Middleton
- Uniqueway Ltd
- 42 Crwys Road
- Caerdydd
- CF2 4NN
-
- Tel 01222 644611
- Fax 01222 644622
- E-mail paul@uniqway.celtic.co.uk
-